Ysgol Bro Dyfrdwy

Cyngor Ysgol

Criw o ddisgyblion gweithgar a brwdfrydig iawn ydym ni sydd eisiau gwneud gwahaniaeth yn Ysgol Bro Dyfrdwy. Rydym wedi ein hethol gan ein cyd-ddisgyblion i gynrychioli eu llais a chodi materion sydd o bwys gydag Mrs Fell, Pennaeth yr ysgol a llywodraethwyr yr ysgol. Hefyd gallem fwrw ymlaen a phrosiectau ar ran disgyblion yr ysgol. Rydym hefyd yn credu’n gryf mewn codi arian i elusennau sy’n helpu plant a phobl llai ffodus na ni. Dros yr amser mae’r Cyngor wedi cefnogi sawl elusen yn lleol a chenedlaethol. Rhai gweithgareddau rydym yn gweithio arno yw rheolau amser chwarae a rheolau aur yr ysgol er mwyn eu cadw’n gyfredol. Rydym wedi gwrando ar lais ein cyfoedion a gwella amser chwarae drwy ariannu offer chwarae i bob dosbarth, posteri mawr o amgylch yr ysgol a wal ddringo ar wal yr ysgol. Er mwyn bod yn effeithiol, rhaid i ni cynghorwyr: - gynrychioli yr holl ddisgyblion y gorau y gallem - gymryd amser i wrando ar yr holl ddisgyblion ac i gyfleu eu llais - rhoi adborth yn ol i ddisgyblion am yr hyn ddigwyddodd am eu barn/syniadau - wneud i bethau ddigwydd – neu esbonio pam nad yw hyn yn bosib weithiau. Fy enw i ydi Gethin Mollison White a fi yw Cadeirydd Cyngor Ysgol Bro Dyfrdwy. Dwi yn byw yn Llandrillo ac wrth fy modd yn chwarae pêl-droed. Fy hoff bwnc yn yr ysgol ydi mathemateg. Mae gennai chwaer o'r enw Erin, sy'n 6 oed, ac ar y Cyngor Ysgol hefyd. Rydw i'n falch iawn fy mod yn Gadeirydd y Cyngor Ysgol yn fy mlwyddyn olaf yn Ysgol Bro Dyfrdwy. Rwyf yn gobeithio y gwnaf y dewisiadau doeth i'r ysgol eleni. Hoffwn i bawb yn yr ysgol fod yn hapus fel y gog a chefnogi plant yn ysgol Nabongo, Uganda.
Ysgol Bro Dyfrdwy © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs
‘Yn y llaw fach, mae’r holl fyd’
English  Ysgol Bro Dyfrdwy Ysgol Bro Dyfrdwy Ysgol Bro Dyfrdwy