Eco
Y Cyngor Eco sy'n gyfrifol am edrych ar ôl
tir yr ysgol. Rhaid gwneud awdit eco
blynyddol i weld ble mae'r cryfderau a'r
gwendidau o fewn yr ysgol. Hefyd,
mae'n hanfodol cael cyfarfodydd yn
rheolaidd i drafod sut i wella'r
amgylchedd ar dir yr ysgol.
Cafodd aelodau'r Cyngor Ysgol eu hethol
gan ein cyd-ddisgyblion yn y dosbarth ac roedd rhaid iddynt ystyried
pam eu bod eisiau bod yn rhan o'r Cyngor Eco i ennill eu seddi. Mae
cadeirydd, ysgrifennydd a thrysorydd eisoes wedi eu penodi. Rydym yn
hynod o falch o fod yn aelodau o'r Cyngor Eco ac yn gwisgo bathodyn
bob dydd.
Mae'n bwysig gennym i ddilyn gwaith gwych y cynghorau eco blaenorol
i sicrhau ein bod yn parhau gyda'n statws 'Gwobr Platinwm Eco-
Ysgolion'.
Rydym yn edrych ymlaen at drefnu nifer o ddigwyddiadau dros y
flwyddyn ac edrychwn ymlaen at greu busnes newydd gyda menter
'Den y Ddraig'. Byddwn yn edrych ymlaen at dyfu llysiau a ffrwythau
ac yna eu gwerthu i ffrindiau'r ysgol gobeithio!
Fel aelodau o'r Cyngor Eco, rydym yn falch o fod yn grŵp o blant sydd
yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus ac edrychwn ymlaen yn fawr
i'r sialensiau a wynebwn dros y flwyddyn i ddod.
Fy enw i ydi Joseph Lawrence, ac rydw i yn
blwyddyn 6. Fy hoff liw ydi glas ac rydw i’n
mwynhau chwarae rygbi. Fy hoff fwyd ydi pitsa.
Rydw i’n hoffi dysgu am y blaned ac anifeiliaid.
Mae gen i ddwy lygoden adre o’r enw Dobby a
Daisy. Rydw i eisiau bod ar y cyngor eco
oherwydd fod natur yn bwysig i fi. Mae gen i
lawer o wybodaeth am natur a dwi’n meddwl bod
o’n bwysig ein bod yn edrych ar ôl y blaned.
Ysgol Bro Dyfrdwy © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs
‘Yn y llaw fach,
mae’r holl fyd’
Dyma plant yr ysgol a rhieni yn
helpu gyda clwb garddio.
Dyma ni yn gwerthu'r llysiau a perlysiau rydan
wedi bod yn tyfu yn ein ardd dros y flwyddyn.
Wnaethom hefyd creu wrapiau brechdannau
gallem ail ddefnyddio i werthu yn y ffair, diolch i
Mam Owain ac Eiddwen am helpu ni!
Rydan wedi bod yn lwcus iawn i gadw ein
statws Banner Wyrdd gyda'r Eco Ysgolion
flwyddyn yma!
Dyma ni yn hel sbwriel o gwmpas yr ysgol!